Gordon Brown yw’r diweddara’ i roi ei resymau tros fynd i ryfel. Yn ôl Dylan Iorwerth, mae’n rhyfedd … a sinistr.
Mae rhesymau’r Llywodraeth tros fynd i ryfel yn erbyn Irac yn mynd yn rhyfeddach bob munud. Cyn hir, mi fydd rhaid i Gordon Brown gyhoeddi rhyfel yn ei erbyn ei hun.
Yr esgus diweddara’, yn ôl y Prif Weinidog, yw bod Saddam Hussein yn gwrthod ufuddhau i orchmynion y Cenhedloedd Unedig i adael i archwilwyr weld ei holl arfau dinistriol.
Cyn troi at sylwedd yr honiad, beth am yr egwyddor? A yden ni bellach am ymosod ar bawb sy’n gwrthod ufuddhau i’r corff rhyngwladol?
A yden ni am ymosod ar Israel am y ffordd y mae’n trin y Palesteiniaid ac yn dal i godi treflannau ar eu tir nhw? A yden ni am ymosod ar Brydain Fawr am beidio â thrafod dyfodol Ynysoedd y Malfinas gyda’r Ariannin?
Ac os gorchymyn gan y Cenhedloedd Unedig oedd hwn, onid y Cenhedloedd Unedig eu hunain a ddylai fod wedi penderfynu ar ryfel neu beidio?
Ond rŵan beth am y sylwedd? Yn ôl Brown doedd Saddam ddim wedi ufuddhau i orchymyn i adael i’r archwilwyr weld yr holl arfau dinistriol. Hmmm.
Ar y pryd, roedd pennaeth yr archwilwyr hynny, Hans Blix, yn gymharol hapus efo’r ffordd yr oedd pethau’n mynd ac yn dweud mai ychydig fisoedd oedd eu hangen i setlo popeth.
Er nad oedd Saddam yn ufuddhau “ar unwaith”, roedd pethau’n dod gan bwyll bach ac, wrth gwrs, fel y gwyddon ni, doedd yna ddim arfau. Felly’r broblem oedd fod Saddam yn gwrthod gadael i archwilwyr chwilio am bethau nad oedden nhw’n bod.
Ar ôl clywed yr holl weinidogion pwysig ar y pryd – y Prif Weinidog, yr Ysgrifennydd Tramor, y Twrnai Cyffredinol a rŵan y Canghellor – does dim ond dau gasgliad posib … maen nhw naill ai’n palu celwyddau neu doedd neb yn gwybod beth gythgam oedd yn digwydd.
Bron na fyddai rhywun yn dweud bod y cynta’n well na’r ail ond mae yna oblygiadau sinistr eraill i resymeg Gordon Brown.
Fe allai’r un esgus yn union gael ei ddefnyddio yn erbyn Iran.
Chwi gofiwch i mi ddarogan hyn wrth gael cip ar sut aiff yr etholiad cyffredinol:
Ym mis Chwefror, dwi’n credu y bydd ymgais olaf i ddisodli Gordon Brown fel PW. Mae’r olwynion yn troi’n barod, gydag aelodau meinciau cefn yn anesmwyth a Charles Clarke yn sgwennu llythyr yn galw ar i bobl ei orfodi o’r swydd. Mae gwahaniaeth – nid un mawr – rhwng poblogrwydd y blaid Lafur a phoblogrwydd ei harweinydd. Ydi’r bwlch hwnnw’n un digon mawr i gymryd y risg o newid arweinydd mor fuan cyn yr etholiad? Dwi’n meddwl y gwnaiff Brown oroesi – does dim dewis amlwg yn ei le.
Doeddwn i ddim yn hollol iawn ar yr amseru – a hynny (goeliwch chi? dwnim) oherwydd mod i wedi bwriadu sgwennu proffwydoliaeth fis-wrth-fis i gychwyn, ac angen rhywbeth difyr ym mis Chwefror!
Ta waeth, mae’n ymddangos fod amheuon y blaid Lafur am arweinyddiaeth Brown wedi dod i ryw fath o binacl heddiw – blŵs blwyddyn newydd yn gymysg â phanig am y golled sydd i ddod sy’n gyfrifol. Mae’n werth gweld cofnod byw y Bîb o’r hyn sydd wedi digwydd. Yn y bôn, mae dau gyn-aelod cabinet Blairite wedi galw am bleidlais gyfrinachol ar arweinyddiaeth Brown.
Rhaid i mi ddweud, er ei fod yn ddull digon teidi o droi’r gwres a’r pryderon am Brown i fyny, mae hon yn ffordd fyrbwyll a gwirion o sicrhau newid. Byddai ’secret ballot’ fel hyn yn golygu sibrydion ac anniddigrwydd, diffyg ymddiriedaeth a bygythiadau am ddyddiau. Wedi hynny, pe gorchfygid Brown, byddai mwy o ansicrwydd ynglŷn â’r arweinyddiaeth. Byddai peiriant ’smears’ Brown a’i griw o fwlis yn sicrhau bod y peth yn llanast llwyr – byddai’r etholiad arweinyddiaeth yn difrodi Llafur a fyddai gan yr arweinydd newydd ddim hygrededd.
Yr hyn mae ar Lafur ei angen ydi cael gwared ar Brown mewn ffordd sydyn ac effeithiol, ac yna etholiad byr am yr arweinyddiaeth gyda phawb yn uno tu ôl i arweinydd dros-dro.
Y ffordd y byddai hynny’n digwydd orau fyddai pe bai cwpwl o aelodau blaenllaw o’r llywodraeth – Alistair Darling a Jack Straw, er enghraifft – yn dweud wrth Brown yn breifat nad ydyn nhw bellach yn ei drystio, ac y byddan nhw’n ymddiswyddo os na fydd o’n mynd. Byddai’n rhaid iddo fo ymddiswyddo wedyn – gallai fynd ar sail ei iechyd. Yna, byddai pawb yn cydnabod nad dyma’r amser am ffeit, a byddai arweinydd poblogaidd a derbyniol gan bawb – Alan Johnson mae’n debyg – yn cael ei ethol. Byddai’r etholiad byr (21 diwrnod) yn ffordd dda o ailedrych ar bolisi a chyfeiriad y blaid. Fyddai Llafur ddim yn ennill yr etholiad, ond fyddai’r golled ddim yn enbyd, ac ar ôl blwyddyn neu ddwy gallai Johnson ildio’i le i arweinydd o’r genhedlaeth nesaf.
Mae hyd yn oed y ffordd y maen nhw’n ceisio cael gwared ar eu harweinydd yn dangos bod Llafur mewn llanast.
Gyda llaw, mae’n rhaid fod David Cameron yn bryderus iawn y bydd yr ail gynllun uchod yn gweithio!
DIWEDDARIAD: Mae dadansoddiad Martin Kettle yn ardderchog.
Dylan Iorwerth yn dangos pam fod yr Etholiad Cyffredinol nesa’ yn annemocrataidd…
Wrth i ymgyrch yr Etholiad Cyffredinol ddechrau o ddifri (dim ond pum mis i fynd bois), mae un arall o wendidau mawr y drefn wedi dod i’r amlwg.
Oherwydd natur ryfedd y gwahanol lywodraethau yng ngwledydd Prydain, mae peryg i bobol Cymru gael eu gwthio o’r neilltu. Ac mae Lloegr yn fwy pwysig nag erioed.
Fe fyddwn ni’n gorfod pleidleisio mewn etholiad, heb wybod yn iawn beth fydd yr oblygiadau i ni a heb allu dylanwadu o ran y polisïau allweddol.
Nhw nid ni
Heddiw, mae’r Santes Theresa, sori David Cameron, arweinydd y Torïaid, wedi gwneud cyhoeddiad mawr am y Gwasanaeth Iechyd a’i fwriad i ganolbwyntio arian ar ardaloedd tlawd.
Ond os bydd y Ceidwadwyr yn ennill Etholiad Cyffredinol ar sail polisïau o’r fath, does dim sicrwydd o gwbl – dim peryg hyd yn oed – y byddan nhw’n berthnasol i Gymru.
Fe fydd hyn yn wir am y rhan fwya’ o bolisïau cartref y pleidiau mawr Prydeinig – polisïau ar gyfer Lloegr yn unig fyddan nhw. Ond y rheiny fydd yn cael eu defnyddio i apelio aton ninnau.
Mi fydd y pleidiau, mae’n siŵr, yn cyhoeddi maniffestos Cymreig ond fydd y rheiny’n cael fawr ddim sylw a fyddan nhw’n cael dim effaith o gwbl ar ddelwedd Brown, Cameron a Clegg.
Ar ben hynny, does dim sicrwydd – na thebygrwydd hyd yn oed – mai’r blaid sy’n ennill yr Etholiad Cyffredinol fydd yn llywodraethu yng Nghymru.
Amherthnasol
Mewn geiriau eraill, mae peryg y bydd pobol Cymru yn pleidleisio un ffordd neu’r llall oherwydd set benodol o bolisïau sy’n gwbl amherthnasol i ni.
Nid problem gyda’r Etholiad ydi hyn ond enghraifft o ddiffyg sen a rhesymeg y drefn fel y mae. Yn fwy nag erioed, mae San Steffan yn Senedd Brydeinig sydd dan sawdl Lloegr.
Nid problem datganoli ydi hyn, ond diffyg datganoli a’r methiant i osod Lloegr ar yr un lefel â thair gwlad arall y Deyrnas Unedig.
Yr unig ffordd i gael etholiad teg yw bod pawb ym mhob rhan o wledydd Prydain yn pleidleisio ar yr un lefel.
Mae hynny’n golygu bod rhaid i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon (tra bydd hi) gael llywodraethau gyda’r un grymoedd, a llywodraeth ffederal ac Etholiad Cyffredinol i benderfynu ar y pethau sy’n gyffredin.
Ifan Morgan Jones sy’n edrych ar ddyddiad posib etholiad cyffredinol…
Ychydig flynyddoedd yn ôl roedd yna raglen gwis fyrhoedlog ar S4C o’r enw Risg, dan arweiniad y gyflwynwraig dywydd Sian Lloyd.
Y syniad clyfar y tu ôl i’r gêm oedd bod y gynulleidfa yn cael rywfaint o’r elw am bob cwestiwn yr oedd y cystadleuydd yn ei gael yn iawn.
Roedd gan bawb yn y gynulleidfa fotwm coch – os oedd yr atebion anghywir yn dechrau pentyrru, a dros 50% o’r gynulleidfa yn gwasgu’r botwm coch, roedd y cystadleuydd yn cael cic allan ac un newydd yn dod yn ei le.
Wnaeth y rhaglen ddim parhau’n hir iawn. Mae’n debyg bod gormod o’r gwylwyr gartre’ wedi gwasgu’r botwm hefyd (y botwm ‘off’), ond mae’r fformat yn syniad da serch hynny. Nid ar gyfer cwis ond ein Llywodraeth yn San Steffan.
Pe bai botwm coch yn cael ei osod ymhob cartref ym Mhrydain a’r Llywodraeth yn gorfod galw etholiad cyffredinol bob tro y mae mwy na 50% o’r boblogaeth yn ei wasgu, fe fydden ni wedi pleidleisio bellach. Os nad yn sgil y cwymp ariannol yna’n sicr ar ôl y sgandal costau San Steffan.
Ond dan y sustem bresennol, lle mae hawl i’r llywodraeth rygnu yn ei blaen nes taro wal gyfansoddiadol, does dim gofyn i gynnal etholiad cyffredinol tan 3 Mehefin 2010.
Bydd hyn yn bwnc trafod mawr yn y flwyddyn newydd, wrth i’r Torïaid geisio dyfalu pryd y bydd Gordon Brown yn galw’r etholiad a’r cyfryngau yn ei annog i wneud hynny am eu bod nhw eisiau rhywbeth diddorol i’w drafod.
Wrth gwrs, y peth callaf fyddai cael cyfnod penodedig o bedair blynedd rhwng bob etholiad, fel yn achos ein Cynulliad ni, llywodraeth yr Unol Daleithiau a bron bob llywodraeth arall.
Ond nid fel yna y mae hi, ac ar hyn o bryd rydan ni’n gwylio gêm arall o Risg. Nid Sian Lloyd sydd wrth y llyw ond y Frenhines. Rhaid i Gordon Brown benderfynu pryd i ofyn iddi am etholiad cyffredinol.
Ydi o’n mynd at y wlad ym mis Mawrth, gan wybod ei fod o ar ei hol hi yn y polau piniwn ond o fewn cyrraedd i senedd grog? Ynteu a ddylai ddisgwyl deufis arall tan fis Mai gan wybod y gallai pethau wella iddo? Neu waethygu wrth gwrs.
Yn y pen draw, dyw hi ddim yn debygol o wneud gwahaniaeth. Mae’r etholwyr wedi gwasgu’r botwm coch ar y senedd yma, o leia’ yn eu meddyliau eu hunain. Does gan Gordon Brown ddim rheswm da dros ddal ymlaen fwy nag sy’n rhaid.
Bathodyn y Cymry Brenhinol sydd yn mynd i Affganistan
ADRODDODD y Daily Post heddiw bod “Milwyr dewr o Ogledd Cymru ar eu ffordd i’r rhyfel yn Affganistan”. Mi fyddan nhw yno dros y Dolig, ac am fisoedd wedi hynny. 500 ohonyn nhw sy’n mynd. O’r Cymry Brenhinol. Bydd hwn yn gyfnod anodd i’w teuluoedd. Ond dyna mae’r dynion a’r merched yma’n ei wneud; dyma ydi eu job nhw – a diolch byth am hynny.
Wrth gwrs, yr alwad boblogaidd y dyddiau yma ydi “Dowch â’r milwyr o Affganistan.” Mae rhywun yn deall yn rhesymau emosiynol dros wneud y ffashiwn alwad: does yna neb am weld milwyr yn cael eu lladd. Ond ydi’r bobl sydd am i ni adael Affganistan yn cysidro be fydd yn digwydd wedyn?
Fedra i ddim credu eu bod nhw. Neu os ydyn nhw, maen nhw’n gwrthod wynebu’r ateb. Oherwydd yr ateb ydi: mi fydd y Taliban yn ennill y wlad unwaith eto.
Mae gwleidyddion, gan gynnwys Gordon Brown, y prif weinidog, yn dweud bod trechu’r Taliban yn allweddol i ddiogelu strydoedd gwledydd Prydain. Efallai bod hynny’n wir. Does yna’m dwywaith bod al Qaeda yn awyddus i ddinistrio’r gorllewin a’n ffordd o fyw “llygredig”. Ond mae yna reswmn arall pam na ddylid caniatáu i’r Taliban ennill: pobol Affganistan.
Meddylwich, mae yna enethod yn cael eu addysgu yn Affganistan heddiw nad oedd ganddynt hawl i addysg pan oedd y Taliban yn rheoli’r wlad. Mae milwyr o Gymru wedi bod yn cynorthwyo i godi ysgolion yno, dynion dewr fel Sean Birchall. Mi fyddai’r ysgolion yma’n cael eu diinistrio, a’r plant – yn enwedig y genethod – yn colli eu addysg. Mi fyddai canu a dawnsio a chwaraeon yn cael eu gwahardd eto. Mi fydd pob dim yr ydan ni’n eu cymryd yn ganiataol yn cael eu gwahardd.
Mae fy ngwraig i yn gyfrifol am ymddiriedolaeth elusennol sy’n cynnal dwy ysgol i ffoaduriaid o Affganistan yn Pacistan. Mae’r plant yma, sy’n cael eu addysgu mewn cytiau heb ddim cymorth gan lywodraeth Pacistan, eisiau dychwelyd i Affganistan pan fydd hi’n ddigon diogel yno. Os y down ni o Affganistan a gadael i’r Taliban reoli eto, chaiff y plant yma byth fynd adre. Sut y bydde chi’n teimlo yn eu lle nhw?
Mae hi’n gyfrifoldeb arno ni i gefnogi Affganistan a’i phoblogaeth. Bydd dod oddi yno yn golygu eu bradychu – eto.
Gobeithio’n arw y daw’r 500 milwr adre’n ddiogel wedi iddynt wireddu eu cyfrifoldeb draw yn Helmand. Ond un peth sy’n sicr, pan y do’n nhw adre mi fyddan nhw wedi cyfrannu at wneud Affganistan yn fymryn yn saffach.
MI AETH “The Sun” yn rhy bell wrth ddefnyddio mam milwr gafodd ei ladd yn Affganistan er mwyn bwydo eu fendeta nhw yn erbyn Gordon Brown.  Cychywn yn stori oedd yr honiad bod y Prif Weinidog wedi camsillafu enw Jamie Janes yn anghywir yn ei lythyr gwreiddiol i Jacqui Janes. Dwn i’m os ydi hynny’n wir yn y lle cynta: mae sgwennu’r Prif Weinidog fel traed brain. Ac mewn galwad i Mrs Janes i ymddiheuro ac i gydymeidmlo, fe wadodd Mr Brown ei fod wedi sillafu’r enw yn anghywir.
Ond ta waeth. Y drwg yn y caws yw’r ffaith bod y “Sun” wedi recordio’r sgwrs hwnnw, ac wedi ei wneud yn gyhoeddus. Yn y sgwrs, mae Mrs Janes – sydd yn ddim yn morthwlo y mae’r papur yn ei ddefnyddio i golbio’r Prif Weinidog – yn cwyno nad oedd gan ei mhab, na’i gyd-filwyr offer digonol. Roedd hi’n gefnogol i’r rhyfel, ond roedd hi am i’r milwyr gael eu harfogi a’u hamddiffyn yn iawn, er mwyn iddynt fedru cwbwlhau eu cyfrifoldebau peryglus yn ddiogel.
Beth bynnag mae rhywun yn feddwl o’r rhyfel, o Gordon Brown, hyd yn oed, mae’r “Sun” wedi mynd yn rhy bell – a dyna ydi’r farn gyffredinnol. Mae rhai yn cydymdeimlo gyda’r Prif Weinidog. Mae’r papur wedi bod yn sinigol dros ben. Tydi hynny ddim yn newydd, wrth gwrs: mae papurau sinigol bob dydd. Ond y tro hwn, mae darllenwyr wedi cael llond bol ac wedi datgan hynny.
Hen beth slei iawn oedd recordio’r sgwrs rhwng Mrs Janes a Mr Brown. Nid er mwyn Mrs Janes roeddan nhw wedi gwneud hynny; nid er mwyn ei mhab dewr; ac nid er mwyn y milwyr sydd yn wynebu peryglon dychrynllyd yn Affganistan. Y rheswn tu cefn i’r weithred oedd “rhyfel” y “Sun” yn erbyn Brown.
Dylan Iorwerth sy’n edrych ar obeithion y Blaid Lafur ar ar ôl yr etholiadau…
Os ydi Gordon Brown dan fwy o bwysau ar ôl Etholiadau Ewrop, mae’n bosib fod Rhodri Morgan yn gryfach nag erioed.
Wrth weld chwalfa’r Blaid Lafur mewn etholaethau ar hyd a lled Cymru, mae’n bosib iawn y bydd yna ragor yn galw arno i beidio ag ymddeol.
Hyd yn oed cyn yr etholiadau, roedd yr AC Huw Lewis wedi gofyn am hynny – efallai oherwydd ei fod yn gweld ei obeithion ef ei hun o’i ddilyn ym lleihau – ond fe fydd ofn bellach yn sbarduno rhagor i wneud yr un peth.
Heb Rhodri Morgan, fe fyddan nhw heb un o’r unig ddau wleidydd gwirioneddol enwog sydd ganddyn nhw – Peter Hain ydi’r llall – ac yn dibynnu’n llwyr ar ddelwedd y blaid Brydeinig.
Ond efallai nad oes rhaid iddyn nhw boeni. Mae’r ymgyrch Ewropeaidd yn dangos problem fawr arall y pleidiau mawr, a Llafur yn arbennig. Does ganddyn nhw ddim arian – a gyda’r sgandal tros lwfansau, fe fydd pobol yn llai parod i roi.
Dyna un rheswm pam nad oedd yna unrhyw ymgyrchu o werth ynglyn ag Ewrop. Doedd hyd yn oed y cyn-ASE Eluned Morgan ddim yn gwybod beth oedd neges ei phlaid ac roedd hi’n cyfadde’ nad oes peirianwaith ar ôl.
Fydd Llafur ddim yn gallu fforddio etholiad am arweinydd Cymreig – mae’n bosib iawn y bydd Rhodri yn aros.
Dylan Iorwerth sy’n cynnig cyngor i Gordon Brown…
Mae yna ddau ddarn pwysig iawn o gyngor yn ymwneud â bod mewn twll.
Un oedd awgrym Eirwyn Pontsian erstalwm – os wyt ti mewn trwbwl tria ddod mas ohono. Y llall yw’r un cyffredinol am roi’r gorau i balu.
Mae’n ymddangos fod Gordon Brown am drio’r cynta’ ond, wrth wneud hynny, fe fydd yn mynd yn ddyfnach a dyfnach i lawr i’r stwff sy’n dwyn ei enw.
Yr awgrym ydi fod y Prif Weinidog ar fin cyhoeddi newidiadau mawr … neu o leia’ y bydd yn gwneud hynny os ydi’r darogan yn wir fod Llafur am gael cweir ofnadwy yn yr etholiadau Ewropeaidd a’r etholiadau lleol yn Lloegr.
Yn ogystal â newid ei Gabinet – a chael gwared hyd yn oed â’r Canghellor, Alastair Darling – mae sôn y bydd yn trio gwneud rhywbeth mwy radical fyth ac yn gofyn i’r Democratiaid Rhyddfrydol uno ag o.
Pryd glywson ni siarad tebyg o’r blaen? Mi fuodd yna ryw ychydig yn syth ar ôl i Gordon Brown ddod i rym, ond mi fuodd yna lawer mwy yn ôl ynghanol yr 1990au pan oedd Llafur yn gobeithio curo’r Ceidwadwyr am y tro cynta’ ers 1979.
Dyna pryd yr oedd Tony Blair hefyd yn sôn yn agored am gael pleidleisio cyfrannol, PR. Yn rhyfedd iawn, mae Llafur wedi dechrau sôn am yr un peth unwaith eto.
Mi fydd pawb yn cofio beth ddigwyddodd i’r fflyrtio efo’r Democratiaid Rhyddfrydol ac adroddiad Roy Jenkins ar y system bleidleisio … yfflon o ddim. Y funud yr oedd Blair yn meddwl ei fod yn saff, mi anghofiodd y cyfan.
Ar yr union adeg, roedd Ysgrifennydd Cymru ar y pryd, Ron Davies, yn sicrhau fod yna bleidleisio cyfrannol yng Nghymru ac un o’i ddadleuon oedd fod rhaid achub Llafur rhagddi hi ei hun, a rhag y math o chwalfa sydd fel petai ar fin digwydd.
Felly, mae ymgais Gordon Brown yn druenus ac mi fydd pawb yn gweld mai ymgais ddespret yw hon i gadw grym. Arwydd o wendid nid cryfder.
Ar y llaw arall, efallai mai dyma ydi unig gyfle’r Blaid Lafur i’w hachub ei hun rhag trychineb.