Wedi i’r arlywydd Pervez Musharaff gyhoeddi stad o argyfwng yn Mhacistan, gan arestion dwsinnu o wrthwynebwyr i’w lywodraeth fel rhan o’i fesurau diogelwch newydd, bydd tipyn o boeni ynglyn a’r dyfodol yn digwydd ledled y byd. Un o’r prifddinasoedd fydd a’r mwyaf o bryder dros ddyfodol Pacistan fydd Tehran. Yn rhannu ei finiau ac Irac ac Affganistan, y peth olaf fydd Iran eisiau ei weld yw anrhefn pellach ar ei ffin dde-orllewinol gyda’r wlad mae Musharaff yn ceisio’i rheoli ar hyn o bryd.
Ond nid arhefn cyffredin yw’r bwgan ar y gorwel ym Mhacistan, ond arhefn mewn gwlad sy’n cynnwys cymysgedd tanllyd o daflegrau niwcliar a miloedd o gefnogwyr i neges grefyddo-wlediyddol Osama bin Laden a’r Taliban. Yn Tehran, mae hyn yn gymain os nad yn fwy o fygythiad nac unrhyw ymosodad gan yr Unol Daleithoau neu Israel. Mae si ar led ar strydoedd Tehran ac ar y we taw is-stori yw’r ffrwgwd ddiplomyddol gyda’r Unol Daleithiau ac mae gwir nod Iran yw datblygu rhyw amddiffyniad i wrhtwynebu llywodraeth eithafol Swni yn cydio’r awennau yn Islamabad.
Yn gynt eleni, profodd Pacistan daflegrau newydd sydd a’r gallu i gludo arfau nicliar gymaint a 2,000km o ffinniau’r wlad. Mae hyn yn rhy fyr o bellter i daro Tehran ei hunan, ond gorwedd rhannau helaeth o dde a gorllewin Iran o fewn y pellter yma. Gwaeth fyth i’r Gorllewin ac i economi’r byd yw’r ffaith bod mynediad morol Gyneifor Persia o fewn y pellter yma. Trwy’r stribyn cul yma o for llif ganran sylweddol o gyflenwad olew y byd, a gall ymosodiad niwcliar yn yr ardal beryglu’r cyflenwad gan yrru prisoedd olew yn uwch fyth.
Falle taw’r peth rhyfeddaf yw’r ffaith nad oes llawer o son am fygythiadau i ddiogelwch Iran yn bodoli yn y wasg Orllewinol ar hyn o bryd. Mae digon o son am fygythiad Iran i ddiogelwch Israel a’r Dwyrain Canol yn gyffredinol. Ond ychdig iawn sy’n holi pam fyddai Tehran eisau bom yn y lle cyntaf. Tybiaf taw un rheswm am hyn yw’r anesmwythder all holi fel hyn ei achosi dros gwestiwn bodolaeth cannoed arfau niwcliar Israel ei hunan, a datganiadau cyson Israel a’r Unol Daleithiau ynglyn a’u parodrwydd i fomio Iran (cymerwch gip er enghraifft ar y pwt yma o ddadansoddiad gan y BBC: http://news.bbc.co.uk/1/hi/world/middle_east/6122412.stm). Ond drwy beidio o holi’r cwestiwn, methu byddwn ni i ddeall y pryderi difirfol yn Tehran dros ddiogelwch ei gwlad rhag ymosodaid niwcliar o’r dwyrain.
Diddorol iawn yw darllen adroddiadau diweddar am ymdrechion y blaid wleidyddol arfog Hisbala o Libanus i ricriwtio aelodau o’r cymunedau Swni, Driws, a Christnogol yn Libanus. Yn hanesyddol, grwp sy’n dibynu ar gefnogaeth cymuned Shia de Libaus yw Hisbala. Fe ddaethant i’r adwy nol yn y 1980au cynar, adeg rhyfel cartref Libanus, fel grwp arfog i amddiffyn y gymuned Shia. Maent wrth gwrs wedi bod yn y penawdau sawl tro ers hynny, gydag Israel yn lawnsio cyrchoeed eang yn erbyn Libanus yn haf 2006 mewn ymgais i geisio dinistiro’r grwp.
Yn ol y Cenhedloedd Unedig, cafodd tua 500 o ymalddwyr y grwp eu llad yn y gwrthdaro, ond bu’r gwrthdaro yn fuddugoliaeth seicolegol fawr ‘r mudiad gan i Israel atal yr ymosodiadau wedi mis o frwydro heb ganlyniadau amlwg. Lladdwyd 120 o filwyr Israel yn y gwrthdaro, yn ogystal a thua 1,200 of sifiliaid yn Libanus a 43 yn Israel. Yn dilyn methiant byddin Israel (y cryfa ar bapur a’r mwya modern yn yr ardal diolch yn rhannol i gymorth milwrol eang gan y Gorllewin) i drech Hisbala, mwynheodd y mudiad cryn gefnogaeth boblogaidd yn Libanus ac ymysg poblogaethau Arabaidd gwledydd eraill yr ardal. Fel rhan o’r twf yma, ymunodd rhai cannoedd o lanciau ifanc Shiaidd a’r mudiad gan negyddu’r colledion ddioddefwyd yn y gwrthdaro, a chan gynyddu y nifer o ymladdwyr ar lyfrau’s mudiad i dua 10,000.
Mae’r adroddiadau diweddaraf yn honi bod arweinayr Hisbala wedi bod yn cwrdd a sawl sieich (arweinydd crefyddol a chymdeithasol) ymysg cymunedau Swni Libanus i geisio datblygu perthynas agosach gyda’r gymuned ehangach yn Libanus. Er taw un o’r rhesymau am hyn fyddai i gryfau’r mudiad cyn ymosodiad disgwyliedig nesaf Israel, mae’r mater yn un llawer mwy cymleth na hyn. Mae Hisbala hefyd am fanteisio ar ddiffyg fydd nifer o boblogaeth y wlad gyda’r llywodraeth bresenol, llywodraeth syn hynnod o agos at y Ty Gwyn ac arweinwyr gorllewinol eraill. Yn ogystal a hyn, ac fel rhan o’r fargen am gefnogaeth y siechs, mae’r mudiad yn hyfforddi cannoedd of lanciau Swni yn un o’r gwersylloedd ffoaduriaid Palesteinaidd er mwyn rhwystro twf al-Caida yn y wlad. Er gwaethaf rhai honiadau o Washington ac Israel, mae Hisbala yn gwbl wrthyn i syniadaeth y mudiad sy’n glwm ac Osama Bin Laden, ac yn barod i herio unrhyw ymgais gan yr eithafwr Swni i sefydlu troedle yn Libanus.
Am fwy o fanylion, dyma ddolen i erthygl yn y San Franciso Chronicle: http://www.sfgate.com/cgi-bin/article.cgi?f=/c/a/2007/11/01/MNOISNC32.DTL&hw=hugh+macleod&sn=001&sc=1000