[If only to prove the point that multilingual blogging is still a very difficult nut to crack, especially in terms of time constraints, this post is in Welsh only! The post is too long to warrant immediate translation but I may come back and re-post in English or French!]
Mae rhai o’r ymatebion cyntaf da ni wedi ei gael i’r blog hwn yn holi ynglŷn ag amlieithrwydd y blog a’r dewis i roi cofnodion mewn dwy iaith yn yr un gofnod.
Yn y bôn roedd y penderfyniad yn un i wneud â pha ddull fyddai gyflymaf pan fo angen sgwennu mewn dwy neu fwy o ieithoedd.
Mae llawer o wefannau’n trafod y pwnc gyda Webxadmin a CrossCultural yn amlinellu rhai o’r problemau.
Mae Loic le Meur yn dweud fod pedwar opsiwn ar gyfer blog amlieithog :
Blog Saesneg yn unig (nid yw’n opsiwn yma gan taw’r pwrpas yw creu blog amlieithog i gynulleidfa amlieithog)
Ysgrifennu rhai cofnodion gwahanol mewn ieithoedd gwahanol (byddai pobol yn mynd yn rhwysredig efallai o weld cofnodion nad ydyn nhw’n gallu eu deall, ond nid yn amhosibl)
Cyfieithu pob cofnod mewn dwy (neu fwy) o ieithoedd (mwy o waith, ond ein dewis ni)
Sefydlu blog ar wahan ar gyfer yr ieithoedd gwahanol (byddai’r Gymraeg ar ei cholled drwy ddefnyddio’r model hwn a byddem yn colli’r elfen weledol amlieithog)
Ers hynny mae pumed opsiwn hefyd gyda Worpress sef cyfieithu cofnodion ond eu cadw ar wahan ar ffurf categoriau gwahanol. Gall pobol wedyn glicio ar y categori er mwyn gweld y cofnodion yn yr iaith hwnnw’n unig a gellir creu ffrwd RSS ar wahan ar gyfer yr ieithoedd gwahanol.  Mae hyn yn gweithio’n dda ar gyfer blogiau dwyieithog ond gallwn weld na fuasai cystal ar gyfer blog sydd eisiau cael cofnodion chlysurol mewn sawl iaith aral.
Mae gan Luistxo Fernandez, sy’n blogio yng Nglwad y Basg, ddeg gorchymyn ar gyfer blogiau dwyieithog ond mae yntau wedi mynd am yr opsiwn 4 uchod gan gadw blog ar wahan yn Saesneg, Basgeg, a Sbaeneg. Ond maent i gyd wedi eu cyfeirio at gynulleidfaoedd gwahanol tra bod ni eisiau cadw at un wefan i’r un gynulleidfa ond mewn sawl iaith.
Mae Spip yn cynnig pecyn gwefan amlieithog ac mae erbyn hyn plugin amlieithog ar gyfer WordPress o’r enw Gengo (gyda thrafodaeth ychwanegol amdano yma ar Multilingualblog). Un datblygiad diddorol arall yw cael dwy golofn ochr yn ochr fel Blog Huw Thomas ond y no-go mawr yw jest cael botwm “cyfieithwch!” sydd yn cyfieithu’r dudalen gan ddefnyddio cyfieithydd gwe awtomatig fel BabelFish neu Intertran. Y mathau o wefan sydd wedi esgor ar cymaint o gyfieithiadau erchyll dros y blynyddoedd diwethaf.
Felly am y tro, sdicio gyda’r cyfieithiad o fewn cofnod fyddwn ni, gan edrych ar bosibliadau gwell wrth iddyn nhw godi. Does dim rheol bendant i fod yma, dim ond ceisio creu blog fydd yn ddifyr ac fydd yn gallu apelio at gynulleidfa eang.
Ond yn brawf nad oes rheol, ac yn brawf nad yw hi am fod mor hawdd blogio’n amlieithog drwy’r amser, dwi ddim am gyfieithu hwn i’r Saesneg / Ffrangeg / iaith arall (eto)! Galwch o’n ysgogiad i ddysgu Cymraeg!